Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 28 Chwefror 2013 |
|
|||
Amser: |
10:30 - 12:00 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2013(4) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Dave Tosh, Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, y Dirprwy Lywydd Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies AC a Rhodri Glyn Thomas AC.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1(iii) Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cafodd y cofnodion eu cytuno arnynt yn amodol ar welliant o dan eitem 3.
2. Adrodd ar berfformiad corfforaethol
Wrth iddo graffu ar gyllideb y Comisiwn, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai’r Comisiwn gyhoeddi dangosyddion perfformiad blynyddol. Bu’r Comisiynwyr yn trafod ystod o ddangosyddion arfaethedig a fyddai’n dangos cynnydd tuag at Nodau Strategol y Comisiwn. Byddai’r rhain yn cael eu cyhoeddi’n gyson, ac roeddent yn debygol o esblygu a chael eu mireinio dros amser.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai angen i’r dangosyddion fod yn ansoddol yn ogystal ag yn feintiol, ac y byddai cynnydd yn erbyn targedau yn cael ei ddangos lle bo hynny’n briodol. Byddai meincnodi yn erbyn sefydliadau eraill hefyd yn dangos faint o gynnydd sy’n cael ei wneud, er na fyddai hyn yn bosibl ym mhob maes.
Pwysleisiwyd yr angen i gynnwys dangosyddion a oedd yn berthnasol i berfformiad y Comisiwn. Awgrymwyd newidiadau i’r cynigion yn y papur yn y meysydd a ganlyn:
Cytunwyd y dylid ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid ar ddangosyddion perfformiad.
Cam i’w gymryd: Y Bwrdd Rheoli i adolygu’r dangosyddion.
3. Adroddiad ar gynnydd a pherfformiad TGCh
Gwnaethpwyd cynnydd mewn nifer o feysydd ers y tro diwethaf i’r wybodaeth ddiweddaraf gael ei rhoi i’r Comisiwn ddiwedd mis Ionawr 2013. Roedd y rhain yn cynnwys:
- bod y rheolwr trawsnewid newydd wedi dechrau ei swydd. Bydd yn gyfrifol am reoli’r Cynllun Ymadael a fydd yn sylfaen i’r broses o adael y cytundeb ag Atos;
- bod rhai Aelodau wedi bod yn treialu defnyddio mod.gov ar gyfer papurau Pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn;
- bod mynediad at Outlook drwy’r we wedi cael ei ehangu i gynnwys ystod ehangach o ddyfeisiau, sy’n fwy cyfleus i ddefnyddwyr;
- bod nifer o sesiynau rheoli gwybodaeth wedi cael eu trefnu ar gyfer Aelodau a’u staff i godi ymwybyddiaeth ynghylch eu dyletswyddau mewn perthynas â Diogelu Data.
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael yng nghyfarfod perfformiad nesaf y Comisiwn.
4. Y wybodaeth ddiweddaraf am Berfformiad Ariannol 2012-13
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb ar gyfer 2012-13, fel yr oedd ar ddiwedd mis Ionawr 2013. Cyrhaeddwyd y targed gwerth am arian o £470,000 am y flwyddyn, a disgwyliwyd iddo gynyddu ychydig ymhellach erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd hefyd yn debygol y byddai tanwariant o rhwng tua £0.3 miliwn a £0.4 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ond roedd hyn o fewn y targed o 1%. Roedd arian wrth gefn o £175,000 wedi’i neilltuo ar gyfer Darpariaeth Pensiwn yr Aelodau, a byddai hyn yn cynyddu’r tanwariant os na fyddai ei angen.
Bu’r Comisiynwyr yn trafod y ffordd y mae alldro y rhagolygon misol yn cael eu defnyddio gan y Bwrdd Rheoli a’r Bwrdd Buddsoddi er mwyn defnyddio holl gyllideb y Comisiwn yn effeithiol, gan nodi bod y prosesau rheoli arian hyn wedi’u rheoli’n dda yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
5. Y fframwaith ar gyfer adroddiad blynyddol Comisiwn y Cynulliad a’r datganiad o gyfrifon ar gyfer 2012-13
Cafodd amlinelliad arfaethedig o’r Adroddiad Blynyddol ei gyflwyno er mwyn i’r Comisiwn ei ystyried. Cytunwyd ar y fframwaith.
Cam i’w gymryd: Swyddogion i barhau gyda’r gwaith ar yr adroddiad.
6. Adborth o Bwyllgor Archwilio 21 Chwefror (eitem lafar)
Rhoddodd Angela Burns AC y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am gyfarfod Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol. Roedd y Pwyllgor wedi trafod y rhaglen Gwerth am Arian a’r arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi’u cyflawni, ac roedd yn gefnogol o waith y Comisiwn sydd ar y gweill yn y maes hwn, gan nodi bod gweithdy ar gyfer staff perthnasol wedi’i drefnu er mwyn cryfhau’r gwaith hwn ymhellach.
Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi cwestiynu’r sgôr ‘isel’ a roddwyd i’r risg gweddilliol mewn perthynas â newidiadau TGCh yn y dyfodol.
Nododd y Comisiynwyr y byddai Lynne Flux yn gadael y Cynulliad, gan ddiolch iddi am ei gwaith gwerthfawr ac o safon uchel ar lywodraethu ac archwilio.
7. Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiynydd
8. Unrhyw Fusnes Arall
Nid oedd materion eraill i’w trafod.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Chwefror 2013